Dysgwch am ein dull marchnad gyfan o oruchwylio cwmnïau.
On this page
Ein blaenoriaeth wrth oruchwylio cwmnïau yw sicrhau bod cwsmeriaid wrth wraidd busnes y cwmni. Ein nod yw cyflawni rhaglen oruchwylio gynaliadwy gyda dull marchnad gyfan, yn hytrach na chanolbwyntio ar gwmnïau unigol. Rydym yn ceisio mynd i'r afael â risgiau cyn iddynt achosi niwed.
Rydym yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar risg ynghylch a yw model busnes cwmni a'r ffordd y caiff y busnes ei redeg yn arwain at driniaeth deg i gwsmeriaid, a'i fod yn cynnal uniondeb y farchnad ac, ar gyfer y cwmnïau hynny rydym eu rheoleiddio'n ddarbodus, eu bod yn gadarn yn ariannol.
Goruchwylio ymddygiad
Mae'r FCA yn gyfrifol am oruchwylio bron i 60,000 o gwmnïau. Rydym yn goruchwylio'r farchnad drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau gweithredu. Y tri phrif ddull gweithredu yw:
- Colofn 1 - goruchwyliaeth ragweithiol ar gyfer y cwmnïau mwyaf
- Colofn 2 - goruchwyliaeth sy'n cael ei llywio gan ddigwyddiad, goruchwyliaeth adweithiol o risgiau gwirioneddol a risgiau sy'n dod i'r amlwg yn unol â'r lefel risg y credwn sy'n addas
- Colofn 3 - gwaith thematig sy'n canolbwyntio ar risgiau a materion sy'n effeithio ar y sector cyfan
Rydym yn ymyrryd yn gynnar lle gwelwn ymddygiad gwael, gan gymryd camau i atal niwed i ddefnyddwyr a marchnadoedd ac yn sicrhau iawndal lle y bo'n briodol.
Dyrennir pob cwmni awdurdodedig i un o ddau gategori ymddygiad:
Cwmnïau portffolio sefydlog
Mae gan gwmnïau portffolio sefydlog oruchwyliwr a enwir ac fe'u goruchwylir yn rhagweithiol drwy ddefnyddio dull asesu parhaus sy'n benodol i'w cwmni. Mae pob un o'r cwmnïau hyn yn destun strategaeth goruchwylio sy'n benodol i'r cwmni a rhaglen waith sylfaenol, a gânt eu gwerthuso drwy fannau gwirio llywodraethu allweddol yn ystod y cylch rheoleiddiol. Eir i'r afael â materion Colofn 2 yn unol â'r lefel risg y credir sy'n addas a rhwymedigaethau rheoleiddiol, a gellir cynnwys cwmnïau mewn gweithgarwch Colofn 3 hefyd lle y bo'n briodol.
Darllenwch fwy am ein Dull goruchwylio ar gyfer cwmnïau portffolio sefydlog (Saesneg yn unig).
Cwmnïau portffolio hyblyg
Goruchwylir cwmnïau portffolio hyblyg drwy waith thematig sy'n seiliedig ar y farchnad, ynghyd â rhaglenni o weithgarwch cyfathrebu, ymgysylltu ac addysgu sydd wedi'u halunio â risgiau allweddol a nodir yn y sector perthnasol.
Darllenwch fwy am ein Dull goruchwylio ar gyfer cwmnïau portffolio hyblyg (Saesneg yn unig).
Goruchwylio darbodus
Rydym yn gyfrifol am oruchwylio 18,000 o gwmnïau yn ddarbodus, gan gynnwys rheolwyr asedau, cynghorwyr ariannol, a broceriaid morgais ac yswiriant. Golyga hyn mai ni, yn ôl nifer y cwmnïau, yw'r rheoleiddiwr darbodus mwyaf yn Ewrop. Fel gydag ein goruchwyliaeth ymddygiad, mae ein goruchwyliaeth ddarbodus yn mynd y tu hwnt i ddadansoddiad meintiol o adnoddau ariannol cwmni. Rydym yn ystyried systemau, rheolaethau, trefniadau llywodraethu a'r gallu i reoli risg yn ogystal â'r risg o gamymddwyn.
Yn ei hanfod, rydym yn asesu pa mor dda y mae cwmni'n deall y risgiau y mae'n eu cymryd, a beth yw ei allu i reoli'r risgiau hynny, ac i osgoi costau uchel, annisgwyl.